Gorffennaf 28, 2019


 

Lynne Neagle AC, John Griffiths AC, Llyr Gruffydd AC

Cadeiryddion Pwyllgorau CYPE, ELGC a Chyllid

Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Bae Caerdydd

CF99 1NA.

Annwyl Gadeiryddion,

Asesu effaith penderfyniadau cyllideb

Diolch i chi am y cyfle i fynegi’n barn ar ymateb Llywodraeth Cymru i’ch adroddiad ar y cyd ar ‘Asesu effaith penderfyniadau cyllideb’.

Rydym yn croesawu bod Llywodraeth Cymru wedi derbyn, neu dderbyn mewn egwyddor, pob un o argymhellion y Pwyllgor. Yn enwedig, nodwn gytundeb Llywodraeth Cymru y bydd yn blaenoriaethu gweithio gyda ni, a’r Comisiynydd Plant, ar y broses asesu. Edrychwn ymlaen at gynghori’r Llywodraeth wrth i’r gwaith hwn fynd rhagddo.  

Asesiad effaith gronnus

Roedd y Comisiwn yn falch i drefnu’r digwyddiad briffio yn ddiweddar (Mawrth 14) lle gwnaeth Landman Economics gynnal sesiwn briffio gyda swyddogion Llywodraeth Cymru ar fodel asesu effaith gronnus. Mae Landman Economics wedi datblygu model sy’n galluogi Llywodraethau i ddadansoddi effaith gronnus penderfyniadau gwario ar rai grwpiau â nodweddion gwarchodedig er mwyn iddynt gymryd penderfyniadau i liniaru yn erbyn canlyniadau anghyfartal. Arddangosodd Llywodraeth Cymru fodlonrwydd i archwilio’r model asesu hwn yn bellach, a gobeithio mai dyna fydd yn digwydd. Rydym o’r farn y bydd defnydd cynyddol o asesiadau effaith gronnus yn cynnig buddion mawr wrth asesu effaith penderfyniadau cyllideb.  

Cyhoeddi Asesiadau Effaith

Nodwn ymroddiad Llywodraeth Cymru i weithredu mewn modd agored a thryloyw o ran cyhoeddi’i hasesiadau effaith. Byddai o fudd i sicrhau bod asesiadau effaith yn cael eu cyhoeddi’n rheolaidd ar wefan Llywodraeth Cymru, yn brydlon ac mewn fformat cyffredin. Bu anghysondeb o os, pryd a sut y dylid cyhoeddi asesiadau o’r fath. Byddai’n ddefnyddiol pe gellid mynd i’r adael â hyn. Yn enwedig, byddem yn croesawu cyhoeddi’r asesiadau effaith yn y dyddiau cynnar er mwyn cael sicrhad bod asesu effaith wedi digwydd cyn i benderfyniadau gael eu gwneud.  

Adolygu Asesiad Effaith Gyfunol

Rydym yn croesawu ymroddiad Llywodraeth Cymru i adolygu ei chyfarpar Asesu Effaith Gyfunol (IIA). Rydym wedi cynnig ein cymorth i Lywodraeth Cymru fel rhan o’r adolygiad hwn. 

Mae’n hanfodol bod y gofyniad deddfwriaethol arbennig i ‘asesu effeithiau ar gydraddoldeb’ yn ganolog i’r broses IIA. Cydnabyddwn ddymuniad Llywodraeth Cymru am ymagwedd symlach ac rydym yn gwerthfawrogi buddion posibl yr asesiadau effaith amrywiol sy’n cael eu hystyried o fewn yr un fframwaith. Fodd bynnag ni ddylai ddigwydd ar draul tystiolaeth o ddadansoddiad manwl o os a sut caiff pobl o grwpiau gwarchodedig eu rhoi dan anfantais (neu fel arall) gan ddyraniad cyllid neu bolisi arbennig.  

Mae agweddau sy’n allweddol wrth asesu effaith ar gydraddoldeb yn cynnwys:

·       Pwyslais clir ar ganlyniadau a thystiolaeth bod penderfyniadau wedi’u newid yn ôl yr angen, yn hytrach na sylwebaeth yn unig ar yr hyn sydd wedi digwydd.

·       Tystiolaeth bod ymgysylltu mewnol ac allanol â phobl o grwpiau gwarchodedig wedi’u defnyddio i gynorthwyo gyda phenderfyniadau. Awgrymwn fod yr ymgysylltu hwn yn mynd y tu hwnt i Grŵp Cynghori Llywodraeth Cymru ar Gyllideb o ran Cydraddoldeb.  

·       Tystiolaeth bod yr wybodaeth berthnasol sydd gan Lywodraeth Cymru wedi’i ystyried yn yr asesiad.

·       Tystiolaeth bod effeithiau ar gydraddoldeb wedi’u hystyried yn y dyddiau cynnar. Dylid ystyried y broses fel un barhaus, ailadroddol, yn hytrach nag ymyriad unwaith ac am byth.

·       Swyddogion ar draws adrannau wedi cael yr hyfforddiant a’r adnoddau i ymgymryd â’n hasesiad o effeithiau ar gydraddoldeb.

 

Yn ein tyb ni, mae anghysondeb mewn ansawdd yr asesiadau effaith a ymgymerir â nhw ar draws adrannau Llywodraeth Cymru. Yn arbennig, gall asesiadau weithiau ymddangos eu bod wedi’u cynnal yn nyddiau olaf y broses a’u bod yn bennaf yn sylwebaeth ar benderfyniadau sydd wedi’u cymryd. Hefyd, gall fod diffyg tystiolaeth o ymgysylltu â phobl â nodweddion gwarchodedig. At hynny, caiff gwybodaeth ar bobl â nodweddion gwarchodedig weithiau eu darparu ond heb gyfeiriad manwl o sut mae hynny wedi cynorthwyo wrth gymryd y penderfyniad.

 

Mae adolygiad IIA yn cynnig cyfle ar gyfer gwella’r broses ei hun a’i gweithrediad fel ei gilydd.  

Ymgorffori cytuniadau hawliau dynol y CU ac alinio dyletswyddau

Darparodd yr Adolygiad Cydraddoldeb Rhyweddol gyfle i archwilio sut y gellir orau alinio’r dyletswyddau statudol amrywiol. Edrychwn ymlaen at Gam 2 yr Adolygiad a chwarae’n rhan wrth gymryd argymhellion perthnasol yn eu blaen. Byddai’r Comisiwn yn croesawu archwiliad pellach i sut y gellid gwella Dyletswyddau Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus sy’n benodol i Gymru a’u cryfhau i sicrhau eu bod wedi’u ffocysu ar gyflawni canlyniadau i unigolion. Bydd y Comisiwn yn cynnal Symposiwm ar y cyd â Llywodraeth Cymru ar Orffennaf 11 a fydd yn cynorthwyo meddylfryd Llywodraeth Cymru wrth adolygu a gwneud y dyletswyddau penodol yn fwy effeithiol wrth fynd i’r afael â’r anghydraddoldebau mwyaf yng Nghymru. Byddem yn croesawu mwy o eglurder ar yr amserlen o ran bwriad dywededig Llywodraeth Cymru i adolygu’r dyletswyddau penodol. 

Dywedodd Llywodraeth Cymru dro ar ôl tro ei bod yn ystyried sut y gellid ymgorffori cytuniadau hawliau dynol y CU yn bellach i gyfraith Gymreig ac wrth lunio polisïau. Croesawn y safle hwn a chredwn y dylai Llywodraeth Cymru ddilyn y nod hwn ar frys. Fodd bynnag, dim ond ychydig iawn o’r ymrwymiad hwn sydd wedi’i gyhoeddi, ac mae’r amserlen ar gyfer newid deddfwriaethol a’i weithredu yn debygol o fod yn hirfaith. Byddai’n ddefnyddiol i Lywodraeth Cymru ddarparu gwybodaeth bellach ar natur yr ymchwil y bydd yn ymgymryd ag ef mewn perthynas â hyn. Eto, cynigwn ein cefnogaeth i’r Llywodraeth a’ch Pwyllgor wrth symud y gwaith hwn yn ei flaen.  

Yr eiddoch yn ddiffuant,

Ruth Coombs

Pennaeth Cymru